Croeso i beyond breakout!
Ein gemau dianc awyr agored a symudol yw eich tocyn i antur, lle mae chwaraewyr o bob oed yn plymio i fyd o bosau a heriau, gan ddatgloi sgiliau nad oeddent yn gwybod eu bod yn meddu arnynt!
Mae gemau’n cael eu chwarae trwy ddod o hyd i safleoedd GPS a datrys posau yn eich pecyn antur. Meddyliwch yn gyflym, cyfathrebwch, a byddwch yn barod i ddatrys posau heriol, wrth rasio yn erbyn y cloc. Dim gêm yn unig mohoni; mae'n brofiad ymdrochol na fyddwch chi a'ch tîm yn ei anghofio’n fuan. Felly, ewch at i greu eich tîm gorau, hogi eich meddwl, a pharatoi ar gyfer profiad ystafell ddianc sydd yn wefreiddiol ac yn fythgofiadwy. Y cyfan rydych chi ei angen yw gwaith tîm, meddwl miniog, ac ymdeimlad o antur — does dim angen gwybodaeth am yr awyr agored! |
CREU EICH TÎM
GRWPIAU YSGOL
Gwnewch datrys problemau yn HWYL fel na fydd y plant yn sylwi eu bod nhw’n dysgu hyd yn oed.
|
ADEILADU TÎM CORFFORAETHOL
Gweithiwch tuag at nod cyffredin gyda’ch cydweithwyr. Lles a chydlyniant tîm trwy chwerthin.
|
PARTÏON IEIR A CHEILIOGOD
Os yw eich grŵp yn fwy na 6 chwaraewr rydym yn hapus i redeg nifer o gemau talcen wrth dalcen.
|
Peidiwch â chymryd ein gair ni amdanoDros y cwpl o flynyddoedd diwethaf mae miloedd o bobl wedi chwarae ein profiadau ystafell ddianc ac wedi gadael gyda gwên ar eu hwyneb ac atgof hapus i'w rannu gyda’r bobl bwysicaf iddyn nhw.
Yn 2022 a 2023 cawsom wobr Travellers’ Choice - Gorau o'r Gorau gan Tripadvisor. Rydym yn teimlo anrhydedd mawr iawn o gael ein dewis ar gyfer gwobr mor uchel ei pharch. Ystyriol o AwtistiaethRydym yn gwmni Ystyriol o Awtistiaeth. Cysylltwch â ni os ydych chi angen addasiadau i weddu i'ch anghenion.
|