Pwy all chwarae gemau dianc yn yr awyr agored?
Mae ein gemau awyr agored ar gyfer pawb — dim eithriadau! Byddwch yn barod i chwerthin, strategeiddio, a rasio yn erbyn y cloc wrth i chi a'ch tîm fynd i'r afael â phosau gyda'ch gilydd. Dim ond nodyn: mae anturiaethwyr dan 16 oed angen cynorthwyydd sy’n oedolyn i ymuno yn yr hwyl!
Gan fod y tywydd yn hoffi ein cadw ar flaenau ein traed, mae’n bosibl cadw lle yn ein gemau awyr agored o hanner tymor mis Chwefror hyd at hanner tymor yr Hydref. Os ydych chi ar bigau’r drain i gael antur awyr agored y tu allan i'r amseroedd hyn, cysylltwch â ni i wirio argaeledd.
Neu gwell byth, beth am ddod â'r hwyl atoch chi gydag un o'n Gemau Symudol?
Pris ein gemau Awyr Agored yw £70 y tîm o hyd at 6 chwaraewr
PA GEMAU ALLWN NI EU CHWARAE?
Porth Hud
Gêm 2 awr ar gyfer 2 i 6 chwaraewr.
Ers dechrau amser, mae pyrth hud wedi cysylltu ein byd â byd cyfochrog gwych. Mae gwarcheidwaid porth yn eu cadw yn ddiogel.
Mae un o'r gwarchodwyr porth wedi'i roi mewn cwsg hudolus. Nawr mae creaduriaid yn ffrydio i'n byd i achosi anhrefn. Ewch ati i ddatrys posau mewn mannau hudolus a chasglu digon o grisialau i ail-selio'r Porth Hud ac achub ein byd rhag dinistrio. |
Ymgyrch Mindfall
Gêm 2 awr ar gyfer 2 i 6 chwaraewr.
Mae eich tîm o asiantau cyfrinachol wedi cael gwybodaeth ddosbarthedig am Spider Tech, y cwmni y tu ôl i raglen ymchwil gyfrinachol a fydd, os yn llwyddiannus, yn rhoi'r pŵer iddynt reoli'r byd.
Mewn dim ond 2 awr bydd Spider Tech yn rhyddhau firws, a fydd yn rheoli'r meddwl dynol ac yn ennill rheolaeth o'r byd, o'u pencadlys diogel. Rhaid i'ch tîm ddod o hyd i'r gwrth-firws a dinistrio gweinyddwyr Spider Tech . |
BLACOWT
Gêm 2 awr ar gyfer 2 i 6 chwaraewr.
Mae eich dinas wedi cael ei herwgipio gan grŵp anhysbys o hacwyr, gan achosi un o'r bygythiadau mwyaf yn y cyfnod modern: Blacowt!
Y canlyniad yw cwymp llwyr y byd modern fel yr ydym ni’n ei adnabod. Heb yn wybod i'r boblogaeth, mae eich dinas eisoes yn rhedeg ar bŵer brys. Dim ond 2 awr sydd gennych chi i atal yr hacwyr, adfer y cyflenwad pŵer ac osgoi'r drychineb fwyaf mewn hanes modern! Pob lwc! Diolch. |
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Gêm Ddianc yn yr awyr agored
Pan fyddwch chi'n chwarae ein gemau dianc yn yr awyr agored cewch iPad a phecyn antur. Bydd eich tîm yn defnyddio'r iPad i lywio'r llwybr yr ydym ni wedi'i ddylunio a datrys yr holl posau. Mae ein llwybrau yn 3km ar gyfartaledd, ac yn gyfeillgar i gŵn. Mae gennym 3 gêm awyr agored yn Beyond Breakout. Os ydych chi angen llwybr hygyrch - cysylltwch â ni fel y gallwn eich gosod ar y llwybr cywir.
Gallwch weld ein gemau yma
Gallwch weld ein gemau yma
Pa mor hir mae gemau yn para?
Mae ein gemau awyr agored yn para 2 awr ynghyd â sesiwn briffio cyn i chi ddechrau.
Ar gyfer pa oedran mae'r gemau’n addas?
Yn ddelfrydol bydd chwaraewyr 10 oed a throsodd yn cael y gorau o'n gemau awyr agored.
Mae gemau yn addas ar gyfer chwaraewyr 8 oed ac uwch fel rhan o grŵp oedran cymysg
Rhaid i rai dan 16 oed gael oedolyn gyda nhw.
Mae gemau yn addas ar gyfer chwaraewyr 8 oed ac uwch fel rhan o grŵp oedran cymysg
Rhaid i rai dan 16 oed gael oedolyn gyda nhw.
Faint o chwaraewyr y gallaf eu cael yn fy ngrŵp?
Mae'r timau rhwng 2 a 6 chwaraewr.
Os yw eich grŵp yn fwy na 6 chwaraewr gallwn redeg hyd at 5 tîm ar yr un pryd yn chwarae'r un gêm ond dros lwybrau amrywiol.
Os yw eich grŵp yn fwy na 6 chwaraewr gallwn redeg hyd at 5 tîm ar yr un pryd yn chwarae'r un gêm ond dros lwybrau amrywiol.
Faint mae Beyond Breakout yn ei gostio?
Mae'r pris fesul tîm yn dechrau o £70